Manteisio ar dalent wyddonol Cymru a De Orllewin Lloegr
Mae Oxford PharmaGenesis nawr yn recriwtio i’n swyddfa newydd yng nghanol Caerdydd, gan groesawu ceisiadau gan awduron meddygol profiadol ac unigolion talentog sydd â diddordeb mewn bod yn weithwyr cyfathrebu meddygol, ac ymgeiswyr sydd â phrofiad mewn rolau cysylltiedig, gan gynnwys rheoli prosiect ac arwain cyfrifon.
Bydd ein swyddfa yng Nghaerdydd yn darparu ffocws ar gyfer twf parhaus i’r cwmni i fodloni anghenion ein cleientiaid, gan fanteisio ar y llu o gyfoeth gwyddonol sydd ar gael o amgylch Caerdydd a dinasoedd cyffiniol Bryste, Caerfaddon ac Abertawe. Wedi ei sefydlu yn 1998, mae grŵp Oxford PharmaGenesis o gwmnïau wedi tyfu’n gyson dros y 18 mlynedd diwethaf a bellach yn cyflogi dros 150 o weithwyr proffesiynol mewn swyddfeydd ar draws y Deyrnas Unedig, UDA a’r Swistir.
Bydd Oxford PharmaGenesis yn cefnogi Ffair Yrfaoedd Gwyddoniaeth Prifysgol Caerdydd ym mis Tachwedd, ac yn chwarae rhan weithredol yn y gymuned busnes gofal iechyd ffyniannus sydd wedi tyfu o amgylch Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Bydd aelodau allweddol o Lywodraeth Cymru, sefydliadau gwyddonol a’r gymuned leol yn bresennol yn agoriad swyddogol y swyddfa yn hwyrach yn y flwyddyn.
Os ydych chi eisiau cymryd rhan, cysylltwch ag Annie Beagent (annie.beagent@pharmagenesis.com).